Aberystwyth yw prif dref Ceredigion. Gellir ei chyrraedd ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd ac mae ei siopau, ei barrau, ei chaffis, ei bwytai a'i gwestai niferus yn golygu ei bod yn fan delfrydol i aros a mwynhau atyniadau gogledd Ceredigion.
Mae nifer o adeiladau hanesyddol yn ogystal â thirnodau wedi dod yn bwyntiau ffocal ac i'w gweld yn glir wrth edrych o amgylch Aberystwyth, er enghraifft, Castell Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Graig Glais, harbwr Aberystwyth, y Marina a'r Bryngaer ym Mhen Dinas. Maent i gyd wedi gwneud cyfraniad i hanes y dref arfordirol hon. Mae Aberystwyth yn ffodus bod ganddynt nifer o gyfleusterau sy'n darparu gwybodaeth ar lefel lleol yn ogystal ag ar lefel Genedlaethol.
Daeth llawer o gyfoeth Aberystwyth o dwf diwydiannol y dref yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er nad yw hynny'n amlwg heddiw. Gwnaed yr harbwr yn fwy hygyrch i longau ac fe adeiladwyd nifer o'i adeiladau trawiadol ag arian a wnaed o ddiwydiant. Ffurfiwyd dolenni cyswllt rhwng y dref â mwyngloddio yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, pan sefydlodd Thomas Bushell y bathdy yng Nghastell Aberystwyth.
Roedd yn y dref nifer o ffowndrïau a lleoedd i doddi'r mwyn, er eu bod i gyd wedi hen ddiflannu erbyn hyn. Datblygodd ddiwydiant gwasanaethol i gynorthwyo mwyngloddiau'r ucheldir. Cyflogwyd nifer o bobl leol i gloddio a chludo mwyn, ffrwydradau a deunydd arall ar gyfer y gwaith.
Ewch i weld y mosaigau arloesol sy'n dangos hanes Aberystwyth ar hyd y promenâd ger y Castell.
Mae yna ddwy ganolfan lle gellir darganfod mwy am hanes Ceredigion, sef:
Amgueddfa Ceredigion, wedi'i lleoli yn y 'Coliseum', sef Theatr Edwardaidd wedi'i hadfer ac sydd wedi cael ei disgrifio fel 'un o'r amgueddfeydd mwyaf prydferth o safbwynt addurn mewnol ym Mhrydain'.
Archifdy Ceredigion, sy'n cadw cofnodion yn ymwneud â hanes Ceredigion ac yn trefnu bod yr hanes ar gael i'r cyhoedd.
Mae casgliad mawr o luniau, mapiau, recordiadau sain a ffilm symudol o Gymru yn ogystal â chenhedloedd Celtaidd eraill i'w canfod yn y
Llyfrgell Genedalethol. Gellir cael golwg ar y rhain i gyd yn y Llyfrgell ei hun. Trefnir arddangosfeydd, ffilmiau, sgyrsiau, perfformiadau byw a darlithoedd drwy gydol y flwyddyn yn 'y drwm', theatr ddarlithio newydd y Llyfrgell. Mae casgliadau eang ynghyd â gwybodaeth am hanes mwyngloddio yng Ngheredigion, a thu hwnt i Geredigion, ar gael yn y Llyfrgell.
Wrth ymweld â
Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, cewch gyfle i fwynhau perfformiadau, arddangosfeydd, comedi byw yn ogystal â pherfformiadau o gerddoriaeth gyfoes a chlasurol. Mae yna siop anrhegion cynhwysfawr ar agor bron bob diwrnod sy'n gwerthu cerddoriaeth, celfyddyd a chrefft a theganau amrywiol i'r ifanc a'r hen!
Cewch olygfa fendigedig o'r dref o'r Camera Obscura. Gellir cyrraedd y safle drwy deithio i fyny'r Graig Glais ar y rheilffordd sy'n dyddio o'r Oes Fictoraidd.
Beth am fynd ar daith hamddenol ar
Reilffordd Dyffryn Rheidol sy'n cysylltu Aberystwyth â
Phontarfynach, drwy'r ardal fwyngloddio gyda'i rhaeadrau ysblennydd a'i golygfeydd godidog.
Ar y llaw arall, beth am deithio mewn car o Aberystwyth i Benrhyncoch – Pendam – Bwlch Nant yr Arian gan ailgydio yn yr A44 ym Mhonterwyd.
Cysylltiadau eraill:
Am fwy o wybodaeth cyffredinol am Aberystwyth gweler:
Visit Aberystwyth
Aberystwyh Online
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru