
Helo, fi sydd yma eto.
Mae Ceredigion yn gallu cynnig nifer o weithgareddau. Os ydych yn hoffi cerdded, beicio, pysgota, gwylio adar, marchogaeth, mynd ar daith ar reilffordd stêm neu ymweld ag amgueddfeydd ac atyniadau eraill, neu orwedd ar y traeth hyd yn oed, mae rhywbeth i bawb ei weld a'i wneud.
Ceir nifer o gyfleoedd eraill i archwilio'r rhanbarth ar droed.
Mae'r llwybr hir rhwng Borth a Phontarfynach yn teithio trwy nifer o ardaloedd cloddio hanesyddol a bydd yn cael ei ymestyn i bentref Pontrhydfendigaid cyn bo hir.
Mae hen gloddfeydd yn fannau peryglus iawn ac mae'n rhaid eu parchu a bod yn ofalus wrth ymweld â nhw. Darllenwch yr adrannau Diogelwch a'r Côd Cefn Gwlad cyn mentro yn agos i safle unrhyw hen gloddfa.
Mae beicio yn ffordd ddelfrydol o ymweld â phentrefi gwledig a hen ardaloedd cloddio.
Mae Ceredigion yn cynnig cyfleusterau rhagorol i feicwyr ar y ffordd ac oddi ar y ffordd, gyda nifer o filltiroedd o lwybrau sy'n rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a llwybrau beicio Mynydd.
Gweler
yma am restr eang o weithgareddau.
I gael gwybodaeth am weithgareddau eraill, trowch at y lleoliadau unigol yn adran
Mannau i'w Gweld.