Mae prosiect murlun y bont wedi cynnwys plant lleol ym Mhontrhydfendigaid i gasglu storïau yn gysylltiedig â threftadaeth eu cymuned leol. Mae'r prosiect wedi cynnwys cynnal nosweithiau o ddweud storïau cymunedol a'i cynhaliwyd yn neuadd y pentref a ymwelodd dau storïwr lleol Charles Arch a Lyn Ebenezer â'r ysgolion gyda'r bwriad o harnesu a rhannu cyfoeth storïwyr lleol i genedlaethau'r dyfodol.
Creuwyd murlun gan y plant i ddarlunio'r storïau a gellir ei weld ar ochr tŷ yng nghanol pentref Pontrhydfendigaid. Mae'r prosiect wedi bod yn gyfle i hybu ymwybyddiaeth o hanes, traddodiadau a threftadaeth diwydiant mwyngloddio'r ardal, ac mae wedi ei gofnodi ar DVD.
Dyddiad cymeradwyo'r prosiect: Chwefror 2005.