Datblygwyd cyfres o saith o lwybrau cerdded sydd wedi eu hariannu yn rhannol gan gynllun Ysbryd y Mwynwyr yn yr Ucheldir ac mae'n creu cysylltiadau pwysig â'r rhwydwaith o lwybrau y mae'r Cyngor Sir a'i bartneriaid wedi bod yn eu datblygu dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae dau lwybr llinynnol newydd yn adeiladu ar y cysylltiad sefydlwyd eisoes rhwng y Borth â Phontarfynach. Mae'r llwybr newydd rhwng Pontarfynach â Phont-rhyd-y-groes yn dringo 10km (6 milltir) cyn ddisgyn i Gwm Ystwyth ac arwain trwy diroedd yr Hafod cyn gorffen ym Mhontrhydygroes. Mae'r ail lwybr llinynnol yn dringo o Bont-rhyd-y-groes cyn ddisgyn eto i Bontrhydfendigaid ar ôl taith o 13 Km (8 milltir).
Mae'r pum taith arall i gyd yn llwybrau cylch yn dechrau a chysylltu o bentrefi a safleoedd o bwysigrwydd amgylcheddol, diwydiannol, hanesyddol a diwylliannol. Mae'r rhain yn cynnwys Bontgoch, Cwmsymlog, Nant Yr Arian, Pontarfynach a Thalybont.
Mae mapiau o'r llwybrau a chyfarwyddiadau manwl ar gael ar ffurf pdf gyda naratif ychwanegol sy'n darparu manylion amgylcheddol, hanesyddol a diwylliannol.
Dilynwch y linc i wefan
Cyngor Sir Ceredigion sy'n dangos PDF's y llwybrau.
Grant y ddyfarnwyd: £38,000
Dyddiad cymeradwyo'r prosiect: Mehefin 2006.
[Hawlfraint y ffotograffiau: Daniel J. Owen]