Yng Ngogledd Ceredigion, ceir llawer o dystiolaeth am draddodiad mwyngloddio'r sir. Cloddiwyd am gopr yma yn Oes yr Efydd, a phlwm ac arian o'r cyfnod Rhufeinig hyd at y 20fed ganrif. Mae pentrefi'r fro yn tystio i dwf diwydiannol y 19eg ganrif, pan godwyd tai teras, ysgolion a chapeli er mwyn cartrefu a gwasanaethu'r boblogaeth. Y cyfnod olaf yna o brysurdeb a llwyddiant yn y gweithfeydd mwyn sy'n gyfrifol am lawer a welwn yng ngwedd yr ardal heddiw.
 |
Gyda'i gymysgedd ardderchog o fynyddoedd, cymoedd ac arfordir, mae gogledd Ceredigion yn le atyniadol a chyffrous i'w droedio, unrhyw adeg o'r flwyddyn. Mae lonydd tawel a llwybrau troed yn croesi'r ardal, y rhan fwyaf ohonynt yn dyddio'n ôl i oes aur y mwyngloddiau. Dyma'r llwybrau a gysylltodd y pentrefi â'r mwyngloddiau lle roedd cymaint o ddynion lleol yn gweithio, ac mae llawer ohonynt yn lwybrau cyhoeddus hyd heddiw. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi creu cyfres o lwybrau gwledig sy'n ymweld â rhai o fwyngloddiau gorau'r sir. Cewch fanylion am y llwybrau hyn ar
www.tourism.ceredigion.gov.uk.
Bwriad cynllun Ysbryd y Mwynwyr yw adrodd hanes mwyngloddio'r fro i drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae'r prosiect hwn yn berthnasol i ardal etholiadol Ceulanamaesmawr, Ceredigion, sy'n cynnwys cymunedau Ysgubor y Coed, Llangynfelyn a Ceulanamaesmawr.
Ariannwyd prosiect Ceulanamaesmawr gan Ysbryd y Mwynwyr , Cronfa Eleri,
Comisiwn Cefn Gwlad Cymru a
Phartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru.
Ecodyfi oedd yn gyfrifol am gydlynu'r prosiect, gyda datblygiad manwl pob agwedd yn nwylo cwmni
Trysor. Crëwyd y tudalennau ar gyfer y we gan
Technoleg Taliesin.
• Crëwyd paneli dehongli er mwyn esbonio'r rhan mae mwyngloddio wedi chwarae yn hanes y fro (rhoddir panel ymhob un o bentrefi'r ardal, sef
Bont-goch,
Talybont,
Tre Taliesin,
Tre'r-ddôl a
Ffwrnais.
• Cynhyrchwyd taflen er mwyn tynnu sylw at lwybrau cerdded a mannau hanesyddol diddorol yn yr ardal. Ceir copiau o swyddfeydd Bwrdd Croeso yn yr ardal, neu gallwch edrych arni yma fel ffeil PDF:
Tudalen 1 Tudalen 2 Tudalen 3
• Mae storiâu digidol wedi cael eu recordio a defnyddio i greu CD. Gallwch ar gyfer cael
gwrando arnyn nhw yma hefyd.