Mae cwm heddychlon Rheidol yn cynnig nifer o bethau annisgwyl i ymwelwyr, o siffrwd ysgafn adenydd glöynnod byw i ddrama'r rheilffordd stêm. Mae'n werth ymweld â Chanolfannau ymwelwyr gorsaf bŵer EON a Powergen.
Wrth adael y briffordd brysur A44 yng Nghapel Bangor, byddwch yn disgyn i'r dyffryn prydferth a thawel, yn rhoi'r argraff eich bod ymhell o fwrlwm bywyd. Mae'r dyffryn yn dawel, ar wahân i frefu gwartheg a sŵn yr afon Rheidol wrth iddi ystumio ar ei thaith i'r môr - a sŵn achlysurol o'r oes a fu wrth i'r trên bach, sef trên stêm Cwm Rheidol, ymlwybro'n araf i fyny ochrau'r dyffrynnoedd serth tuag at Bontarfynach.
Wrth i chi gyrraedd pen y dyffryn, heibio'r atyniadau sydd wedi'u rhestri isod, daw cyfrinachau hanesyddol y gorffennol i'r amlwg.
Yng
Nghanolfan Ymwelwyr E.ON- UK cewch gyfle i gael cynnig ar arddangosfeydd rhyngweithiol Cynllun Trydan Dŵr Cwm Rheidol.
Bydd pob aelod o'r teulu yn cael mwynhad a phrofiad o'r mathau gwahanol o loÿnnod byw wrth ymweld â'r
'Magic of Life Butterfly House.'
Mae
canolfan farchogaeth Rheidol wedi'i lleoli yng nghanol prydferthwch Cwm Rheidol, bedair milltir o dref arfordirol Aberystwyth. Mae ganddynt ddwy gorlan farchogaeth wedi'u goleuo y tu mewn a thu allan, cwrs neidio ceffylau, cwrs traws gwlad cyflawn i ddechreuwyr a chyfle i fwynhau merlota rhagorol o amgylch Cwm Rheidol.
Mae cyfleusterau darlithio a rheolaeth stablau ar gael.
Yn agored 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, gyda bwcio o flaen llaw yn hanfodol.