Mae i Eglwys yr Hafod hanes cyfoethog, ac mae ganddi gysylltiadau cryf â diwydiant mwyngloddio'r ardal. Mae'n adnabyddus oherwydd beddrodau Thomas Johnes, yr Hafod, a'i ferch Mariamne yn ogystal â llawer o fwynwyr a fu'n gweithio ym mwyngloddiau Cwmystwyth – un o'r rhai enwocaf oedd James Raw, a ddaeth i'r ardal fel peiriannydd mwyngloddio. Mae ei deulu'n byw ac yn ffermio yn yr ardal hyd heddiw. Gwyddwn o 1718 hyd at ddiwedd 2007 fod 2,389 o bobl wedi'u claddu yn y fynwent.
Roedd y prosiect yma yn ymwneud â chynnal gwaith ymchwil yn seiliedig ar gofnodion eglwysig teuluoedd mwynwyr yn ardal Cwmystwyth, cychwyn arolwg o fynwent yr Hafod a chynhyrchu byrddau gwybodaeth a chodi system sgrin gyffwrdd gyfrifiadurol i arddangos y cofnodion a'r wybodaeth i'r gymuned leol ac i ymwelwyr.
Taflen Eglwys Newydd leaflet - Tu allan
Taflen Eglwys Newydd - Tu fewn
Dyddiad cymeradwyo'r prosiect: Mehefin 2007.