Mae nifer o hen fwyngloddiau yng Ngheredigion yn anodd cael mynediad iddynt ac ar dir preifat. Mae'r trefi a'r pentrefi canlynol yn rhoi cyfle i sylwi ar leoliadau diarffordd safleoedd mwyngloddio blaenorol rhai ohonynt yn dal i fod ag olion gweladwy ) neu mae ganddynt gyfleusterau i ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn â threftadaeth mwyngloddio. Mae gan rai o'r lleoliadau a restrwyd isod gyfleusterau ar gyfer ymwelwyr er enghraifft siopau neu luniaeth ysgafn.
Ymwelwch â gwefan Twristiaeth Ceredigion er mwyn dod o hyd i ragor o wybodaeth am Geredigion ac er mwyn archebu copi rhad ac am ddim o'r llyfryn gwyliau “Ceredigion - Bae Ceredigion”. Mae'r wefan a'r llyfryn yn cynnwys manylion am ddetholiad o westai sydd wedi eu graddio o ran ansawdd, gwestai bach, unedau hunanarlwyo, parciau gwyliau ac atyniadau o fewn Ceredigion, un o gyfrinachau gorau Cymru.
Gall y lleoliadau hyn a mwy cael eu darganfod ar dudalen Mapio GIS.
Aberystwyth yw prif dref Ceredigion. Gellir ei chyrraedd ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd ac mae ei siopau, ei barrau, ei chaffis, ei bwytai a'i gwestai niferus yn golygu ei bod yn fan delfrydol i aros a mwynhau atyniadau gogledd Ceredigion.
Mae cloddfeydd a phentref bach anghysbell Cwmsymlog yn meddu ar un o'r unig simneiau cloddfeydd y gellir troi atynt, yn y sir. Arferai'r safle hanesyddol hwn gynhyrchu cyfoeth o arian, a fyddai'n cael ei fathu yn ddarnau arian yng nghastell Aberystwyth
Mae cwm heddychlon Rheidol yn cynnig nifer o bethau annisgwyl i ymwelwyr, o siffrwd ysgafn adenydd glöynnod byw i ddrama'r rheilffordd stêm. Mae'n werth ymweld â Chanolfannau ymwelwyr gorsaf bŵer EON a Powergen.
Mae Cwm ysblennydd Ystwyth yn llwybr hamdden poblogaidd rhwng Aberystwyth a Rhaeadr Gwy. Yng Nghwmystwyth, byddwch yn teithio drwy'r safle cloddio metel hynaf a gofnodwyd yn y DU – tua 4000 o flynyddoedd oed. Mae ehangder olion y gwaith diweddarach yn syfrdanol.
Cyrchfan boblogaidd i dwristiaid ers dyddiau'r pererinion cynnar, mae Pontarfynach yn fwy poblogaidd nawr am ei dair pont, ei reilffordd stêm a'i rhaeadrau ysblennydd.
Mae amgueddfa cloddfa blwm ac arian Llywernog yn rhoi cipolwg rhyfeddol ar fyd y cloddiwr metel yng Ngheredigion ac mae'n cynnig taith tanddaearol i hen gloddfa go iawn.
Mae pentref Ponterwyd, sy'n eistedd wrth ymyl prif ffordd A44, yn cynnig cyfle i'r teithiwr blinedig orffwys, fel yr arferai wneud yn ystod oes yr awdur George Borrow pan deithiodd trwy'r ardal yn y 1800au.
12 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth, mae Canolfan ymwelwyr y Comisiwn Coedwigaeth yn Nant yr Arian yn cynnig rhywbeth i'r teulu cyfan. Mannau chwarae i'r plant, cyfleoedd i dynnu lluniau a bwydo'r Cudyll Coch i'r rhai mwy tawel a llwybrau cerdded, marchogaeth a beicio mynydd i'r rhai mwy egniol.
Mae cronfa ddŵr syfrdanol Nant-y-Moch ger Ponterwyd yn un o'r cronfeydd dŵr ifancaf ym Mhrydain ar ôl cael ei greu yn y 60au cynnar, ac mae'n rhan o gynllun pŵer trydan dŵr Cwm Rheidol. Wrth greu'r argae, boddwyd y cwm, a oedd yn cynnwys pentref bach Nant-y-Moch a'i dreftadaeth cloddio lleol.
Tyfodd pentref hanesyddol Pontrhydfendigaid gerllaw Abaty Sistersaidd Strata Florida sydd gerllaw. Mae'r pentref presennol, gyda'i dai arddull Sioraidd, yn bennaf o ganlyniad i ffyniant y cloddfeydd plwm diweddarach.
Pentref yng nghwm prydferth Ystwyth sy'n cynnwys treftadaeth gloddio amlwg o hyd ar ffurf llys, pont y cloddwyr – a thafarn Miners Arms!
Pentref ar y brif ffordd A487 rhwng Aberystwyth a Fachynlleth sydd â chyfoeth o hanes yw Dalybont. Yn enwog am melinau gwlân a hanes mwyngloddio, mae'r ddau dafarn ar lawnt y pentref yn lle da i gymryd luniaeth tra'n darganfod yr ardal.
Tref marchnad prysur iawn yw Dregaron sydd wedi'i leoli ar draed y mynyddoedd Cambrian. Cynnigir Dregaron llawer o wahanol weithgareddau gan gynnwys cerdded, gwylio adar, pysgota, seiclo a siawns i weld olygfeydd hyfryd.