Yr orsaf gynhyrchu yw'r gweddillion sylweddol olaf, o gyfnod o hanes fwyngloddio yng Ngheredigion a ddefnyddiodd trydan â gynhyrchwyd yn lleol i weithio'r peiriannau a oedd angen ar fwynglawdd Frongoch. Yn anffodus oherwydd lleoliad yr orsaf, ar bwys heol cyhoeddus, mae wedi ei dargedu gan tipio anghyfreithlon sy'n tynnu oddi ar esthetig yr adeilad. Ar yr un pryd does yna ddim arwydd gweledol i'r cyhoedd o bwrpas gwreiddiol yr adeilad.
Pwrpas y cais oedd i gynorthwyo â chael gwared ar y sbwriel, gosod 'grille' addurnol er mwyn atal tipio anghyfreithlon ac i godi ymwybyddiaeth o'r adeilad. Hefyd fydd cynhyrchwyd a gosodwyd bwrdd dehongli i adrodd stori bodolaeth yr adeilad a sut yr oedd yn gweddu mewn i dirwedd ehangach mwyngloddio'r ardal. Y gobaith yw gan gwneud y cyhoedd sydd yn ymweld â'r safle yn fwy adnybyddus o bwysigrwydd yr adeilad fe fydd yn arwain at lai o gamddefnyddio gan annog werthfawrogiad o'r safle.
Gyda chymorth gan aelodau Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru gafodd y safle ei glirio ar 8fed o Fehefin. Mae'r 'grille' hefyd nawr wedi ei roi yn ei le ac mae'r bwrdd dehongli ar fîn cael ei gwblhau.
Mae'r 'grille' addurnol yn darlunio rhôd ddŵr gyda dŵr yn llifo drosdo a fflachiad mellten sy'n arwyddedig o'r trawsnewidiad o bŵer dŵr i bŵer electrig y cynhyrchwyd gan yr adeilad.
Mae'r prosiect yn esiampl da o chydweithio rhwng sefydliadau a unigolion gan gynnwys Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Asiantaeth yr Amgylchedd a Mr a Mrs Williams, perchnogion y tir, sydd wedi gweithio gyda'i gilydd.i fudd dreftadaeth mwyngloddio cyfoethog Ceredigion.
Hoffwn ddiolch i'r rheini a deithiodd pellteroedd mawr i wirfoddoli ac hefyd i Mr a Mrs Williams am ei cymorth drwy darparu peirianwaith ar y dydd.
Taflen Pont Ceunant
Dyddiad cymeradwyo'r prosiect: Tachwedd 2006.