Mae prosiect Afonydd i'r Môr - Harbwr i'r Byd wedi creu dwy sedd fel rhan o'i brosiect cyntaf i greu cysylltiadau rhwng harbwr Aberystwyth a hen safleoedd mwyngloddio yng nghefn gwlad yn enwedig i bwysleisio'r pwysigrwydd o'r afonydd fel llwybrau i greu'r cysylltiadau yma. Mae'r ddwy sedd wedi'i lleoli ar lwybr yr Ystwyth yn Llanilar ac ar yr Harbwr yn Aberystwyth.
Bwriad cyffredinol grŵp Afonydd i'r Môr - Harbwr i'r Byd yw codi ymwybyddiaeth o hanes yr ardal trwy gyfres o ddarnau o gelf gyhoeddus. Rhain yw'r cyntaf o nifer o seddau y caiff eu creu.
Mae ymgynghoriad wedi mynd ymlaen ynglŷn â chynlluniau'r ddwy sedd. Wrth leoli'r sedd ar lwybr yr Ystwyth mi fydd yn rhoi cyfle i seiclwyr a cherddwyr i stopio ac ystyried beth sydd wedi digwydd yn yr ardal. Fe welir pennill dwyieithog ar bwys y sedd yn Llanilar:
“Through valleys rich in Silver and Lead the Ystwyth River hurled
By riches raised from natures core Aberystwyth's port unfurled
Not only a river to the sea but a harbour to the world”
“Heno mae tinc morthwylion fu'n cloddio arian a phlwm
Yn ddwndwr yn llif Ystwyth ar ei thaith ar hyd y cwm.
Y wythïen fu'r hen fwynwyr yn cloddio yn eu pryd
Drodd harbwr Aberystwyth yn ddrws i foroedd byd.”
Dyddiad cymeradwyo'r prosiect: Mehefin 2007.