Mae gan gloddio am fetelau, llechi a glo ar hyd a lled Cymru a'r Gororau hanes hir a nodedig ac mae'n rhan bwysig o'n diwylliant a'n treftadaeth.
Mae cannoedd o safleoedd, rhai lle y mae modd gweld pethau sy'n tarddu o'r oes Efydd o hyd, wedi'u gwasgaru ar draws y rhanbarth, ond mae bron pob un ohonynt mewn cyflwr diffaith iawn. Mewn cloddfeydd o'r fath, mae rhai o'r peiriandai Boulton & Watt a Cornish cynharaf a gorau wedi goroesi hyd heddiw. Mae nifer ohonynt dros ddwy ganrif oed ac mae bron pob un ohonynt mewn cyflwr enbydus ac adfeiliedig iawn.
Yn ffodus, mae pwysigrwydd y cofadeiliau trawiadol hyn i'r diwydiant cloddio yn cael ei chydnabod nawr, ac mae nifer ohonynt wedi cael eu Rhestru neu eu Cofrestru, er nad yw hyn yn delio â phroblem hanfodol a syth dirywiad naturiol yn anffodus.
Ac eithrio peiriandai; mae pyllau olwyn, tai malu a strwythurau eraill mewn perygl yn yr un modd ac mae CADW, English Heritage, yr Amgueddfa Wyddoniaeth, curaduron ac ymgynghorwyr wedi bod yn galw am rhyw fath o ymddiriedolaeth godi arian dros y blynyddoedd diwethaf.
Ymgorfforwyd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru ym 1992 mewn ymgais i ymateb i'r her.
Ar hyn o bryd, daw'r Ymddiriedolwyr o blith aelodau arbenigol priodol Cymdeithas Cloddfeydd Cymru yn bennaf, sy'n gorff a sefydlwyd ers tro ac sy'n canolbwyntio ar hanes ac archeoleg cloddfeydd a chloddio.
Mae nodau'r Ymddiriedolaeth yn cynnwys codi arian i wneud gwaith trwsio ac atgyfnerthu strwythurau. Bydd yn ceisio cyswllt gyda thirfeddianwyr, awdurdodau lleol a chyrff eraill. Pan fo modd, y nod terfynol fydd sicrhau bod modd i'r cyhoedd fanteisio ar y safleoedd, er mwyn galluogi gwerthfawrogiad go iawn o'u harwyddocâd hanesyddol a sicrhau bod eu ffabrig yn cael ei gynnal yn y tymor hir.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn ymwneud â chynlluniau amrywiol yng Nghanolbarth Cymru, yn ogystal ag mewn rhannau eraill o Gymru. Yn ystod y ddau haf diwethaf, rydym wedi cynnal
“Penwythnosau Treftadaeth”, gan gynnig y cyfle i drigolion lleol ymweld â rhai o'r safleoedd cloddio hanesyddol yng Ngheredigion, megis cloddfeydd Cwmystwyth, Glogfach, Glogfawr, Logaulas, Erglodd, Cwmsymlog a Thal-y-bont. Yn ystod y penwythnosau hyn, mae aelodau'r Ymddiriedolaeth wedi rhoi anerchiadau a sioeau sleidiau ynghylch y safleoedd hyn.
Y llynedd, buom yn gwneud gwaith yng Nghloddfa Goginan ac eleni, rydym yn bwriadu gwneud gwaith yng nghloddfeydd Cwmsymlog ac Eaglebrook. Ein prif brosiect ar hyn o bryd yw adfer y Peiriandy yng Nghloddfa Pen Y Clun yn Sir Drefaldwyn gyda chymorth grant o £38,000 gan CADW.
Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn trefnu penwythnosau gweithio ac yn 2006 bu gwaith yn mynd ymlaen yng nghapel a mynwent safle mwynglawdd Cwmsymlog.
Am fanylion pellach, trowch at ein gwefan sef
www.welshmines.org yna cliciwch ar y cyswllt ar gyfer WMPT, neu cysylltwch â'r Ysgrifennydd, Graham Levins trwy anfon e-bost at WMPTsecretary@welshmines.org neu ffoniwch 01293-510567.